Eisiau tyfu llysiau blasus
a ffrwythau LLAWN SUDD?
Os y'ch chi'n egin arddwr neu'n arddwr profiadol, gallwn eich ddysgu! Mae gennym gyrsiau a gwybodaeth i bawb:
-
BETH BYNNAG yw EICH PROFIAD
-
faint bynnag o amser sy' gennych
-
ble bynnag y'CH chI’N BYW YNG NGHYMRU
-
bETH BYNNAG y'ch chi'n hoffi ei ddysgu
Os ydych yn hoffi dysgu mewn ystafell ddosbarth neu ddysgu ar-lein yng nghysur eich cartref, gallwn eich helpu.
Os ydych yn awyddus i dyfu gardd gegin yn Abertawe, neu wedi blino gan pryfed ardd yn Eryri, gallwn eich helpu.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yng nghanol rhwydwaith o leoliadau ar draws Cymru sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i dyfu bwyd blasus a maethlon.
Mae’r cyrsiau yn hwyl, hyblyg ac yn rhad neu am ddim. Mae gennym amrywiaeth o gyrsiau ac yn cwmpasu llawer o bynciau. Nid oes angen cymwysterau ac rydym yn croesawu pawb.
Archwiliwch ein gwefan i gael mwy o wybodaeth. Neu dewch draw am sgwrs a chael eich ysbrydoli gan ein gwrychoedd bwytadwy, coedwig gardd a gwelyau plannu creadigol yma yn yr Ardd Fotaneg.










